Publisher description
Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839-1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus. Nod y gyfrol hon yw dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd benyw ddibriod o gefndir gwerinol i'r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry'i hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol a'i syniadau arloesol ynghylch rhywedd. Cyhoeddwyd dwy gyfrol fywgraffiadol arni'n flaenorol, yn 1932 ac yn 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth - ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol, er enghraifft - sy'n berthnasol iawn i'w hanes. Yng ngoleuni'r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o'i bywyd a'i dylanwad
More books by Jane Aaron
Similar books
Rate the book
Write a review and share your opinion with others. Try to focus on the content of the book. Read our instructions for further information.
Cranogwen
Book reviews » Cranogwen
|
|
![Cranogwen](/images/background.gif) |
![Cranogwen](/images/background.gif) |
|
|
|